Login

Dau Fyd Cerddoriaeth Delyn Gymreig  

(Dorian DOR-90260)

gan William Taylor

Dau Fyd Cerddoriaeth Delyn Gymreig
o lawysgrif Robert ap Huw (1613)
a chyfrolau Edward Jones
Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784-1825)
wedi eu canu ar delynau hanesyddol gan William Taylor

Translations by Mary Scammell, ©1997


1.    Gosteg Dafydd Athro, llsgr.Robert ap Huw
   
2.    a.  Y ddigan y droell, llsgr. Robert ap Huw
       b.  Troiad y Droell, Edward Jones, 1802

3.    Kaniad y gwynn bibydd, llsgr. Robert ap Huw

4.    Kaniad San Silin, llsgr. Robert ap Huw
   
5.    a.  Tôn y Brenhin, Edward Jones, 1820
       b.  Tyb y Brenhin Siarles, Edward Jones, 1802
       c.  Hofedd y Brenhin, Edward Jones, 1802

6.    Kaniad ystafell, llsgr. Robert ap Huw

7.    a.  Distyll y Donn, Edward Jones, 1784
       b.  Kaniad bach ar y gogower, llsgr. Robert ap Huw

8.    Sidanen, Edward Jones, 1802

9.    Canu yn iâch i Dwm bâch, Edward Jones, 1802

10.  a. Kaingk Dafydd Broffwyd, llsgr. Robert ap Huw
       b. Caingc Dafydd Brophwyd, Edward Jones, 1802

Telynau:   
Telyn Romanésg 12fed g., 'Cithara Anglica', 21 tant, gan Rainer Thurau, 1990: 4
Telyn Wrachod 15fed g, ar ôl Bosch, 24 tant, gan Rainer Thurau, 1987:  2a, 3, 6, 10a
Telyn Wrachod, 29 tant, gan David Brown, 1992: 1, 2b, 5, 6, 7, 8, 9, 10b

Mae'r rhaglen hon yn cyferbynnu dau stoc hollol wahanol o gerddoriaeth hanesyddol Gymreig i'r delyn.  Ar un llaw, mae gennym ni gorff o gerddoriaeth yn llawysgrif Robert ap Huw (Llyfrgell Brydeinig, Llsgr. Ychwanegol 14905),  a ysgrifennwyd ym 1613, sydd yn amlwg yn ganoloesol ei naws; ar y llaw arall mae casgliadau cerddoriaeth hynafol Edward Jones, a gyhoeddwyd lai na 200 mlynedd yn ddiweddarach.  Dynoda'r un ffaith, a'r llall ffuglen hanesyddol, gan gyflwyno cerddoriaeth newydd heb unrhyw swyddogaeth ddefodol, i wasanaethu fel diddanwch rhyfeddodau.  Yr hyn sy'n gorwedd rhyngddynt yw cymdeithas oedd yn newid yn gyflym o ddiwylliant brodorol Cymreig gyda'r hunan hyder a'r gallu i gynal traddodiad o lenyddiaeth a cherddoriaeth ffurfiol i ddiwylliant gyda sail chwaeth bourgeois.  Rhaid dweud nad trawsnewidiad o'r hen stoc mo'r gerddoriaeth hon, ond yn hytrach alawon dawnsio Seisnig a chyfandirol a hynafiaethwyd, hynny yw, a neilltuwyd i'r gorffennol pell trwy eu teitlau.

Cennid y gerddoriaeth ganoloesol a cherddoriaeth led-hanesyddol newydd y 18 ganrif fel ei gilydd ar yr un math o delyn.  O'r 14fed ganrif i'r 17fed ganrif clywid y delyn 'Gothig', gyda'i wrachod unigryw a berai i'r tannau rwnan, ar hyd a lled Ewrop, a chafodd ffafr arbennig yng Nghymru.  Mae llawysgrif Robert ap Huw yn amlwg yn galw am delyn wrachod, i'w chanu â ewinedd, a'i thawellu'n gadarn gyda phadiau'r bysedd.  Yn wir, mae nifer o gerddi Cymraeg o'r oesoedd canol diweddar yn disgrifio'r gwrachod (pegiau bach crwm sy'n dal y tannau wrth y seinflwch, a chyffwrdd yn ysgafn â hwy, gan beri iddynt rwnan) a moli eu grym mynegiadol fel y gallu i 'siarad pob teimlad dwys'. [1]  Yn ei herthygl, 'Edward Jones's Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards, 1784:  A Re-assessment', dywed Joan Rimmer 'harps, of course, were not pecular to Wales.  The ascertainable history of that kind of instrument there reveals that a standard European renaissance harp with brays was in use in Wales in the 16th century and was regarded in the late 17th century as 'the proper Welsh harp'.  Jones described the triple harp as 'the modern Welsh harp', without any reference to its non-Welsh origins, of which he was certainly unaware.' [2]  Fel y daeth datblygiadau newydd mewn gwneuthuriad telynau, parhaodd yr hen fathau, ac yn nydd Edward Jones ceid telynorion Cymreig yn canu'r delyn wrachod, y delyn unres gefn erwydd heb wrachod, y delyn deires Gymreig, neu'r delyn bedal newydd. Byddai canu'r gerddoriaeth yng nghasgliadau Edward Jones wedi bod yn her, a dweud y lleiaf, i'r ychydig delynorion ar ôl yn y 18fed ganrif oedd yn canu'r delyn wrachod petai'r galwad wedi dod iddynt i ganu'r alawon diweddaraf.

Mae llawysgrif Robert ap Huw yn cynnwys y corff cynharaf o gerddoriaeth i'r delyn o unrhyw le yn Ewrop.  Gyda'r dyddiad o 1613 gellid ensynio mai Jacobeaidd fyddai dull y gerddoriaeth, yn enwedig o ystyried fod y casglwr yn delynor llys i Jâms I.  Ond yn bendant nid yw'n debyg i unrhyw gerddoriaeth gyfoes o Loegr neu orllewin Ewrop yn niwedd y 16fed ganrif.  Yn hytrach tameidiau o stoc fawr goll yr oedd beirdd yr oesoedd canol yn gyfarwydd â hi yw'r gerddoriaeth ryfedd hardd hon.  Mae prin 30 o alawon wedi goroesi, ond eto mae ynddynt lawer o oriau o gerddoriaeth berfformadwy.  Nid fframwaith gwrthbwyntiol yw sail y gerddoriaeth, ond system hynafol o fformiwlâu cyfansoddiadol wedi'i wneud o gordiau cyferbyniol a nodwyd mewn modd deuaidd gan '1'au a '0'au.  Adnabuwyd y rhain fel y 'pedwar mesur ar hugain o gerdd dant' ac roedd y patrymau hyn o dyniadau ('0'au), i greu tyndra, a chyweirdanau ('1'au), i roi adferiad, yn atgof gerddorol o'r pedwar mesur ar hunain cerdd dafod, er na ddylid disgwyl cyfatebiaeth uniongyrchol.

Ysgrifennwyd y llawysgrif gan ddefnyddio system tabl-lun unigryw i'r delyn sy'n nodi trebl a bas, pa dannau i'w canu, a'r modd a'r bysedd i wneud hyn.  Yn ffodus rhy'r llawysgrif ganllawiau ar gyfer y techneg sy'n ofynol i ganu'r gerddoriaeth.  Ar dudalen 35 mae thesawrws o ffugurau cerddorol gyda'r teitl 'gogwyddor i ddysgu y prikiad', sy'n disgrifio ffyrdd gwahanol o daro tant unigol, ffyrdd o symud rhwng tannau cyfagos a ffyrdd o ganu cyfyngau gwahanol.  Mae addysg delyn bedal fodern yn canolbwyntio ar un techneg delfrydol, gan ofyn i'r telynor blycio'r tannau gyda padiau'r bysedd. Mewn cyferbyniad mae Robert ap Huw yn rhoi techneg ewinedd sy'n caniatau i'r telynor saith ffordd wahanol o ganu tant unigol.  Ar y dudalen 'gogwyddor' mae tri cholofn wedi'u hysgrifennu gan Robert ap Huw ei hun a cholofn ychwanegol o ddehongli wedi'i hysgrifennu gan yr hynafiaethwr o'r 18fed ganrif, Lewis Morris, ynghyd â'i gyfaddefiad, ' these modern notes are only my guesses.'  Yng nghyfarwyddid Robert  ap Huw mae'r golofn ar y chwith yn enwi'r ffugurau, yn y canol mae enghreifftiau o'r ffugurau gan ddefnyddio'r system tabl-lun sydd yn y llawysgrif ac mae'r trydedd colofn yn esbonio'r ffugurau gan ddefnyddio nodiant staff a phennau nodiau tri-onglog, sydd weithiau'n ddu, weithiau'n wyn.    Mae enwau'r ffugurau, siap pennau'r nodiadau, cyfeiriad y coesau a'r du a gwyn i gyd yn cyfrannu at dechneg unedol sy'n defnyddio'r man wahaniaethau mewn pwysau rhwng bysedd neilltuol, gwahaniaethau yn ongl yr ewinedd yn taro'r tannau a gwahaniaethau yn ansawdd a hyd y grwnan parhaol a ganiateid ar gyfer pob un nodyn.

Esbonia rhai traethodau o'r oesoedd canol diweddar nad addurniadau mo'r ffugurau hyn, ond dyfeisiadau rhethregol sy'n seinio'r cordiau cyferbynol tu fewn i batrymau'r cyweirdannau a'r tyniadau.  Mae tagiadau yn atal rhwng cyweirdannau a thyniadau; mae plethiadau yn cychwyn, tegháu, ac ymrafaelu cyweirdannau a thyniadau; mae crychiadau yn gorffen neu gyflawnu cyweirdannau a thyniadau; ac mae cysylltiadau yn asio cyweirdannau a thyniadau.

Yn ddiweddar mae Peter Crossley-Holland, a ysgrifennodd yr erthygl arloesol ar lawysgrif Robert ap Huw yn 1942, wedi dyddio'r rhan fwyaf o'r darnau yn y llawysgrif o'r 14edd a'r 15fed ganrif, ac wedi enwi eu cyfansoddwyr hefyd.  Er fod gan Robert ap Huw delyn wrachod 30 tant o'r math oedd yn nodweddiadol o'r 16fed ganrif, offeryn llai, ysgafnach o'r oesoedd canol diweddar yw'r math gwreiddiol o delyn a fuasai'n adnabyddus gan y cyfansoddwyr.  Defnyddir y ddau fath yn y recordiad hon.  Defnyddir hefyd delyn fach heb wrachod i ganu un o'r darnau hynaf yn y casgliad, 'Kaniad San Silin'.  Dywed yr Athro Crossley-Holland yn ei erthygl fod 'Silin, though it may have been used wrongly for the names of certain Celtic saints, more probably refers to St. Giles.' [3]  Fel cân yn moli sant canoloesol gallasai'r darn yn eu ffurf wreiddiol, efallai'n wahanol i'r hyn a ysgrifennwyd yn y llawysgrif, fod o'r 13fed neu'r 14fed ganrif.  Arwydd bendant o'i hynafiaeth yw nad yw'n gofyn am fwy na 13 tant.  Awgryma tystiolaeth eicnograffig nad ymddangosodd gwrachod ar delynau tan y 14fed ganrif ddiweddar, sy'n cyfiawnhau fy newis o'r 'Cithara Anglica', telyn holl-Ewropiaidd nodweddiadol o'r cyfnod, ar gyfer y darn hwn.

Casgliad o gerddoriaeth, barddoniaeth a hanes yr oedd ef yn honni ei fod yn 'preserved by tradition, and authentic manuscripts, from remote antiquity; never before published' yw Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards Edward Jones. [4]  Cywaith oedd a ymestynnodd i sawl cyfrol a golygiad a gyhoeddwyd rhwng 1784 a 1825:  Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards, (1784, 1794 a 1808), The Bardic Museum (cyfrol II: 1802) a Hên Ganiádau Cymru/Cambro-British Melodies or the National Songs, and Airs of Wales (cyfrol III: 1820 a 1825).  Cyhoeddwyd y rhain ymhell ar ôl i neb fedru canu'r gerddoriaeth yn llawysgrif Robert ap Huw ac mae casgliadau Edward Jones yn cyflwyno yr hyn yr oedd ef a'i gylch o Gymry Llundain llengar yn meddwl oedd cerddoriaeth wir hynafol.  Er mai ymdeithganau, jigiau, courantes, almains a bourrées cyfoes oeddynt, mae teitlau'r darnau'n aml yn cyfeirio'n bryfoclyd at y gorffennol pell, i gyfnod beirdd yr oesoedd canol -- a chynt.  Dywed Joan Rimmer, 'like John Parry before him, Edward Jones accepted the view that the Welsh music repertory, of which they both published part, was indeed the remnant of something very ancient.  The fifty-nine peices in Jones's Musical and Poetical Relicks of 1784, however reveal a complex musical inheritance, not on the whole very ancient and not at all Welsh in origin, but very Welsh in manner.' [5]

Rhaid cofio mai trefniannau ar gyfer cynulleidfaoedd bourgeois y ddeunawfed ganrif yw'r darnau yng nghasgliadau Edward Jones.  Mae'n bosib i'w ddyhead personol i ail-ddarganfod gweithiau coll o gerddoriaeth llys yr oesoedd canol a'u cyflwyno i'w gynulleidfa fodern effeithio ar ei waith a'i ddallu i'r gwahaniaethau amlwg (i ni) rhwng dawnsfeydd gwerin cyfoes a gwir hen ddeunydd.  Heb noddwyr byddai'r rhan fwyaf o'r gerddoriaeth llys wedi diflannu yn llwyr yn ddychrynllyd o gyflym. Yn ei nodiadau ar 'Canu yn iach i Dwm bâch' mae Edward Jones dyfynnu englyn cywaith gan Huw Gruffudd a Rhys Cain:

Yn iach i Dwm Bâch, aeth i'r bedd; bellach
E ballodd Cynghanedd;
Ni wn i'w ôl, yn un wêdd,
A wyr viwsig ar fysedd.

Ac yna mae'n cynnig cyfieithiad Saesneg:

Ah, see! our last, best harper goes.
Sweet as his strain be his repose!
Extinct are all the tunefull fires,
And music with Twm Bâch expires;
No finger now remains to bring
The tone of  rapture from the string.'[6]

Efallai mai arwydd o beth allasai ddigwydd i'r gerddoriaeth ei hun wrth ei chyflwyno i gynulleidfa bourgeois ei ddydd yw'r cyfieithiad hwn, er y pwysleisiwn nad cyfieithiadau o gerddoriaeth ganoloesol i idiom y ddeunawfed ganrif mo'r gweithiau yng ngasgliadau Edward Jones - ar wahân i Gainc Dafydd Broffwyd. 

Er mai bwriad Edward Jones oedd i'w gasgliadau gael eu canu ar amryw o offerynnau modern cyfarwydd ei ddydd (telyn, harpsicord, ffidil, neu ffliwt), roedd y delyn wrachod o hyd i'w chlywed yng Nghymru.  Heb fod yn y prif ffrwd erbyn y 18fed ganrif roedd hi wedi graddol ildio ei lle i offerynnau cromatig fel y liwt, yr allweddell, y delyn deires a'r delyn bedal.  Ond eto mae'n ymddangos i ychydig o offerynwyr lynu at yr hen delyn, fel y tystiola hanes y parch Thomas Price (Carnhuanawc) am wersi cerddoriaeth ei ieuenctid, tua 1815, gydag athro oedd yn canu'r delyn wrachod.[7] 

Beth oedd y telynorion hynny o'r 18fed ganrif ddiweddar yn ei ganu?  Yn ei blynyddoedd trai ni ddefnyddid y delyn wrachod i ganu cyfansoddiadau cywrain seiliedig ar gyfundrefn o ffurfioldeb hynafol fel y'i gwelir yn y darnau yn llawysgrif Robert ap Huw, ond i ganu alawon dawnsio mewn adloniannau cyhoeddus.  Roedd cynulleidfaoedd wedi hen beidio â gwrando ar allu'r delyn wrachod i 'siarad pob teimlad dwys', ond yn hyfrydu yn ei chwyrnu bachog, a'i cadwai yn y ffasiwn fel offeryn dawnsio poblogaidd.  Ar gyfer y rhaglen hon rwyf wedi distyllu rhin addasiadau Edward Jones i archwilio sut y gallai rhai o'r alawn hynaf yn ei gasgliad swnio ar y delyn wrachod, a oedd am rai canoedd o flynyddoedd 'y delyn Gymreig' ac a oedd yn dal mewn defnydd, yn enwedig yn ne Cymru, i'r 19edd ganrif.

Ffynonellau:

RapH    Llawysgrif Robert ap Huw
MPR      Edward Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784 a 1808)
BM         Edward Jones, The Bardic Museum (1802)
HGC      Edward Jones, Hên Ganiádau Cymru (1820 a 1925)

Nodiadau:

1.    Gosteg Dafydd Athro (RapH, t. 15-17)

Mae gosteg yn ddarn sy'n galw am ddistawrwydd, yn mynnu sylw manwl ei wrandawyr.  Dyma'r darn cyntaf yn llawysgrif Robert ap Huw.  Cyfansoddwyd yn ôl y mesur korffiniwr, a roir fel 1100 1011 1100 1011.  Mae deg rhan neu gainc, gyda'r un diwedd yn gorffen pob un.

2.    a.  Y ddigan y droell (RapH, t. 56-57)
       b.  Troiad y Droell (BM, t. 89)

Yn ôl Edward Jones yn ei nodiadau ar yr alaw: 'Probably this is the same ancient Air, as that of Erddigan y Droell'.[8]  Furff gerddorol glasurol Gymreig yw Erddigan.  Yn amlwg nad alaw Edward Jones yw'r un a geir yn llawysgrif Robert ap Huw.  Gall y ddwy fod yn ganeuon gwaith arddulliedig.  Mae Y ddigan y droell yn un o'r ychydig o ddarnau yn llawysgrif Robert ap Huw gyda marciau rhythmig.  Yn yr achos hwn maent yn sefydlu curiad cyson rheolaidd a all hannu o symudiadau'r nyddwr.  Er fod Edward Jones yn cyfieithu troell fel 'spinning wheel', yn yr oesoedd canol roedd yn cyfeirio at droell y werthyd law: gweithredai'r pwysau ar ben isaf y werthyd fel chwylolwyn i gynnal momentwm y troelli.  Yn ddiddorol mae Plato, yn Y Gweriniaeth, yn disgrifio Cynghannedd y Bydoedd Fry gan ddefnyddio model Gwerthyd Angenrheidrwydd.  Yn ei weledigaeth mae echel lachar y Gwerthyd yn trywannu'r Droell Gosmig, ac ar ymylon hwnnw eisteddai'r Tynghedau, merched Angenheidrwydd, a Seireniaid yn canu.

3.    Kaniad y gwynn bibydd (RapH, t. 36-37)

Cyfansoddiad sy'n cynnwys tair cainc ar ddeg, gydag ail-adrodd mewnol.  Mae pob rhan, neu gainc, yn defnyddio'r mesur tityr bach: 0011 0011.  Roedd caniad yn un o'r ffurfiau cyfansoddi cerddorol a ddisgwylid i delynorion, myfyrwyr a rhai proffessiynol, yr oesoedd canol i'w gwybod, gydag eraill megis gosteg a phrofiad.

4    Kaniad San Silin (RapH, t. 69-71)

Dywed nodyn ar ddiwedd y caniad hwn ei fod i'w ganu naill ai ar y gywair tro tant neu'r gywair isgower; dewisais tro tant.  Mae'r un diwedd yn gorffen pob un o'r deuddeg cainc.  Trwy'r llawysgrif mae Robert ap Huw yn cyflwyno'r gerddoriaeth mewn llawfer.  Yn y darn hwn, fel ag yn eraill,  mae cyfarwyddiadau i'r telynor yn caniatáu perfformiad cyflawn.

5.    a.  Tôn y Brenhin/The King's Note (HGC, 1820, t. 1)

 Credai Edward Jones mai'r alaw hon oedd yr un â'r 'King's Note' a grybwyllwyd gan Chaucer, fel y canlyn:

And after that he sang the King's note,
Full often bless'd was his merry throat. [9]

    b.  Tyb y Brenhin Siarles (BM, t. 108)

    c.  Hoffedd y Brenhin (BM, t. 95)

Dywed Edward Jones:  'Possibly the above Tune alludes to King Henry the Seventh, grandson of Owen Tudor, who had experienced the affection of the Welsh towards him at Bosworth field; consequently, he reformed those unmerciful laws which were enacted against the Welsh by his predecessors, and granted them a Charter of Liberty and immunity, the same as the English.'[10]

6.    Kaniad ystafell (RapH, p.38-41)

Mae'r 'ystafell' yn y teitl yn cyfeirio at ystafell breifat y teulu o'r neilltu i'r neuadd.  Yn y fan honno byddai'r bardd teulu yn canu i'r frenhines, yn ogystal â chanu i'r gosgordd yn y neuadd.

7.    a.  Distyll y Donn (MPR, 1784, t. 134)

Eto, yn ôl Edward Jones:  'This is a Key peculiar to the Ancient Welsh Music; which is call'd Gogywair:  The E, or third above the Key-note being flat.' [11]  Ategir gosodiad Edward Jones am yr hen gywair gogywair, gyda'i thrydydd fflat gan llawysgrif 1605 John Jones, Gellilyfdy.  Hefyd, enwir llawysgrif Gwilym Puw 1676 y gogywair fel 'the sharpe sette'.

    b.  Kaniad bach ar y gogower (RapH, t. 44-46)

Gyda'i ddeuddeg cainc, mae'r 'kaniad bach' yn gyfansoddiad eithaf sylweddol.  Mae'r diwedd yn cynwys cymal melismatig sy'n debyg i'r diwedd yn 'Kaniad San Silin'

8.    Sidanen (BM, t. 106-07)
'Which alludes to Queen Elizabeth, who is said to have been the first who wore Silk-stockings in England, in 1561.'[12]

9.    Canu yn iach i Dwm bâch (HGC, 1820, t. 44-45)

Ymdeithgan bywiog sy'n dathlu cof Twm Bach yn lle galarnadu.  Mae rhestr o gerddorion a beirdd yn bresennol yn nathliadau'r Nadolig ym 1595 yn nhy Lleweni yng ngogledd Cymru yn cynwys 'Thomas ap Richard' -- yr un meistr delynor o bosib.[13]

10.    a.  Kaingk Dafydd Broffwyd (RapH, t. 57)
         b.  Caingc Dafydd Brophwyd (BM, t. 70-72)

Yn ôl Edward Jones:  'A Sacred Theme.  the above Subject, was taken from a curious musical Manuscript of the 11th Century; and probably the Tune is of a much more ancient date.' [14]  Mae'n amlwg mai llawysgrif Robert ap Huw yw fynhonnell Edward Jones, ac mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau ddehongliad o'r un alaw yn drawiadol.  Rwyf wedi dewis canu'r 'Kaingc Dafydd Broffwyd' wreiddiol yn y bragod gywair, gyda Bb ac Eb ym mhob wythfed sy'n rhoi'r darn yn y modd doraidd.  Bragod gywair, a ddisgrifwyd gan Gwilym Puw fel 'the ordinarie sette', yw'r man cychwyn rhesymegol  wrth archwilio darnau yn y llawysgrif lle nad oes unrhyw gyfarwyddiadau cyweirio.  Mae Edward Jones yn cychwyn gyda'r rhagdybiaeth fod y darn yn y gywair C mwyaf, fel y mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn y tabl-lun gwreiddiol.  Gwyddys i Barthélémon, ffidlwr a berchid yng nghylch Edward Jones o gerddorion yn Llundain drawsgrifio'r alaw o'r llawysgrif.  Mae'r amrywiadau sy'n dilyn yn bendant yn nodweddiadol o'r 18fed ganrif, ac wedi'u bwriadu i wneud defnydd o ystod a lliw y delyn deires Gymreig.  Gwnaeth y diffyg nodau hanner-tonal yn fersiwn Edward Jones fy nhrefniant fy hun o'r darn hwn i'r delyn wrachod yn haws, ond bu'n rhaid imi ddefnyddio addasiadau o dechneg unigryw y delyn wrachod yn lle'r amrywiad adlais (rhif pump) a rhai o'r rhannau cyflym, sy'n nodweddiadol o stoc y delyn deires Gymreig, i'w chanu ar y delyn wrachod.
-----------------------------

[1]    Huw Machno, yn ei gywydd i Robert ap Huw yn gofyn am delyn wrachod 30     tant:

Ceimion wrachïod cymwys
Yn siarad pob teimlad dwys.

[2]    J. Rimmer, 'Edward Jones's Musical and Poetical Relicks fo the Welsh Bards, 1784:  A Re-assessment'.  Canu Gwerin, cyf. 10, 1987, td. 38.

[3]    P. Crossley-Holland, 'Secular Medieval Music in Wales'.  Music and Letters, cyf. XXIII, rhif 2, Ebrill 1942, td. 11.

[4]    E. Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards. 1784. London, tudalen deitl.

[5]    J. Rimmer, op cit, td. 30.

[6]      E. Jones, Hên Ganiádau Cymru.  1820, td.45.

[7]    T. Price,  The literary remains of the Rev. Thomas Price... 1855.  Llanymddyfri:  William Rees, td. 21.

[8]    E. Jones, The Bardic Museum.  1802. Llundain, td. 89.

[9]     E. Jones, Hên Ganiádau Cymru. 1820. Llundain, td.1.

[10]    E. Jones, The Bardic Museum, td. 95.

[11]    E. Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards. 1784, td. 134.

[12]    E. Jones, The Bardic Museum, td. 106.

[13]    I. Williams 'Cerddorion a Cherddau yn Lleweni, Nadolig 1595', Bulletin of Celtic Studies, cyf. VIII, rhan 1, Tachwedd, 1935, td. 8.

[14]    E. Jones, The Bardic Museum, td. 70.

William Taylor  h  1997
Cyfieithu gan Mary Scammell  h   1997

Mae William Taylor yn arbennigwr mewn perfformio cerddoriaeth hynafol i'r delyn o Iwerddon, yr Alban a Chymru.  Mae'n un o'r ychydig delynorion sy'n ymchwilio'r stocau hyn ar delynau canoloesol wedi'u tantio â choludd, telynau wedi'u tantio â weiar, a thelynau gwrachod.  Nid telynor oedd wrth ei waith o'r cychwyn; hyfforddwyd fel llyfrgellydd celf, a bu'n gweithio fel  llyfrgellydd celf ym Mhrifysgol Rochester (UDA) ac yn y Natiional Gallery of Art yn Washington DC.  Yn Washington y dechreuodd ei yrfa yng ngherddoriaeth gynnar gan berfformio gydag amryw o grwpiau, gan gynwys y Folger Consort, Hesperus a'r Newberry Consort.

Fel athro telynau hanesyddol, gwahoddir William Taylor yn fynych i arwain gweithdai ym Mhrydain, Ewrop a'r UDA.  Ef yw'r athro preswyl gydag Ardival Harps yn Ucheldiroedd yr Alban.  Bu'n dysgu mewn  gwyliau cerdd yng Nghaerdydd, Caeredin, Inverness, Warwick ac Efrog; Termonfeckin, Iwerddon; Burgh Heimbach, Mosenberg a Schloss Burg yn yr Almaen; Venice; ac Amherst, UDA.  Mae ganddo golofn reolaidd ar ganu telynau tant weiar yn y cylchgrawn Sounding Strings, a bydd yn cyfrannu'n aml i gylchgronnau telyn eraill.  Ar hyn o bryd ef yw llywydd y gymdeithas rwngwladol Historical Harp Society.

Mae William Taylor yn perfformio fel unawdydd ac fel aelod o amryw o grwpiau.  Mae'n canu gyda'r liwtydd Rob MacKillop yn y Rowallan Consort ac mae wedi recordio dau CD o gerddoriaeth Albanaidd o'r oesoedd canol a'r dadeni gydag ef.  Hefyd, mae'n aelod o'r grwpiau lleisiol ac offerynnol o'r ucheldiroedd Musick Fyne a Coronach.   Yn ddiweddar mae ef wedi sefydlu deuawd gyda'r canwr recorder Belgaidd Geert van Gele, gan berfformio cerddoriaeth o'r 15fed, 16fed a 17fed ganrif.  Mae amryw o ddarllediadau radio a theledu wedi rhoi lle amlwg i'w waith ar thradodiadau telyn Albanaidd a Chymreig, gan gynnwys darllediadau byw ar BBC Radio 3 gyda'r Taverner Consort.  Mae ef wedi gweithio'n agos gyda'r côr o Glasgow Capella Nova, gan gyfeilio cerddoriaeth cysylltedig â Sant Kentigern a chan Hildegard o Bingen.  Yn ystod Gyl Rwngwladol Caeredin 1998, bu'n perfformio mewn tair cyngerdd yn y gyfres 'Scottish Harps'.

Gellid clywed Mr. Taylor hefyd ar y CD Graysteil:  Music from the Middle Ages and Renaissance in Scotland, Dorian DIS-80141.